top of page
11th - 13th October, Pontypridd
Wil Morus Jones - Taith Gerdded
3PM
Parc Arts
Gan ddechrau ym Mharc Arts, capel cartref Morfydd, bydd Morus Jones, yn arwain taith gerdded ddifyr, ysgafn o gwmpas strydoedd Trefforest gan ailymweld â safleoedd a mannau allweddol yn stori Morfydd Owen. Dewch i ddilyn ei throed drwy'r gymuned a'i gwnaeth hi.
Bu Wil Morus Jones yn allweddol wrth sicrhau'r 'Plac Glas' i goffau man geni Morfydd Owen ar Stryd y Parc. Mae gan Wil ddiddordeb mawr mewn hanes lleol a diwylliant Cymreig ac mae wedi bod yn gefnogwr brwd i warchod etifeddiaeth Morfydd Owen yn yr ardal leol ers blynyddoedd.
bottom of page