top of page
11eg - 13eg Hydref, Pontypridd
‘The brilliant young musician of Treforest’: Morfydd Owen (1891-1918)
10:30AM
Amgueddfa Pontypridd
Dr Rhian Davies
Roedd Morfydd Owen yn un o’r cerddorion mwyaf dawnus ac amryddawn gynhyrchodd Cymru ac ystyrid ei marw annhymig yn golled aruthrol. Bydd y cyflwyniad hwn â darluniau yn bwrw golwg ar fore oes Morfydd yn Nhrefforest, yn ail-lunio ei gyrfa hynod ac yn ei gosod yng nghyd-destun cerddorion eraill o Gymraesau o’r bedwaredd ganrif ymlaen.
Hanesydd a churadur yw Rhian Davies y mae ei hymchwil wedi adfer sawl cyfansoddwr i’r repertoire. Yn sgil ei gwaith yn hyrwyddo Morfydd Owen, gan gynnwys rhaglenni dogfen teledu a bywgraffiad darluniadol Yr Eneth Ddisglair Annwyl / Never So Pure a Sight, ailgloriannwyd pwysigrwydd Morfydd yn llwyr a gwelwyd perfformiadau o’i cherddoriaeth drwy’r byd yn grwn.
GYDA CYFIEITHYDD BSL.
AM DDIM NID OES ANGEN ARCHEBU
bottom of page