top of page
11eg - 13eg Hydref, Pontypridd
1.png
blue.png
Butterfly - transparent.png

Gail Pearson a Christopher Williams

7PM

Y Muni

Mae gan Gail Pearson a Christopher Williams raglen gerddorol lawn hyd y fyl i ddathlu darnau Morfydd i'r llais yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Ffrangeg yn ogystal â’i gweithiau i’r piano.
Gwnaeth Gail Pearson ei début proffesiynol yn rhan Gilda, Rigoletto i Opera Cenedlaethol Cymru pan oedd yn dair ar hugain oed. Mae wedi canu rolau lawer i’r Royal Opera House, Covent Garden gan gynnwys Papagena, Die Zauberflote a Jano, Jenufa. Bu’n brif gantores reolaidd yn English National Opera yn canu amrywiaeth eang o rolau mewn operâu o Purcell hyd at David Sawer a chanodd gyda’r holl brif gwmnïau opera yng ngwledydd Prydain. Yn Ewrop canodd Gail yn y tai opera yn Paris, Lyons, Nantes, Nancy a Rennes. Mae ei gwaith cyngerdd yn helaeth gan gynnwys perfformiadau gyda Ffilharmonig Fienna yng Ngŵyl Saltzburg, y Philharmonia, Cerddorfa’r BBC yng Nghymru, Cerddorfa Siambr yr Alban a’r City of London Sinfonia gyda’r arweinwyr Syr Charles Mackerras, Wolfgang Sawallisch a Richard Hickox. Ymhlith ei recordiadau mae Iris, Semele (Curnyn), Echo, Ariadne on Naxos (Syr Richard Armstrong) a Jano, Jenufa (Syr Bernard Haitink)
Yng Nghymru y ganed Christopher Williams sy’n un o raddedigion cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd ac sydd bellach yn dilyn gyrfa broffesiynol brysur ac amrywiol yn bianydd, yn gyfansoddwr, yn arweinydd, yn athro ac yn drefnydd. Ar hyn o bryd mae’n bianydd staff yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn athro’r piano ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn bianydd i Gorws Cenedlaethol y BBC yng Nghymru ac i Gerddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru.

ANGEN ARCHEBU

Next Item
Previous Item
bottom of page