top of page
11th - 13th October, Pontypridd
1.png
blue.png
Butterfly - transparent.png

Côr Siambr Prifysgol Caerdydd – Cyngerdd Hamddenol

12 NOON

Y Muni

Cofiwch gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth allai fod o fudd i chi.
Mae Côr Siambr Prifysgol Caerdydd, dan gyfarwyddyd yr arweinydd arobryn rhyngwladol Peter Leech, yn ensemble sydd wrth graidd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Dros yr wyth mlynedd aeth heibio perfformiodd y côr ddewis eang o repertoire o’r Dad-eni i’r oes sydd ohoni, a’r pwyslais ar amrywiaeth. Mewn blynyddoedd diweddar aeth y côr â rhaglenni cyngerdd oedd yn torri tir newydd (ac yn amlwg ei lle ynddynt gerddoriaeth Morfydd Owen, Johanna Kinkel, Olivia Sparkhall, Undine Smith Moore a chyfansoddwyr benywaidd eraill lawer) ar deithiau i Tsieina a Maleisia, ac i oedfannau cyngerdd o fri ledled Cymru. Yn 2024 bydd y côr yn rhyddhau ei CD masnachol cyntaf ar label Toccata Classics yn cynnwys recordiadau cyntaf o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Rufain o’r ddeunawfed ganrif Maria Rosa Coccia.

Next Item
Previous Item
bottom of page