top of page
11th - 13th October, Pontypridd
1.png
blue.png
Butterfly - transparent.png

Côr Siambr Prifysgol Caerdydd – Cyngerdd

1PM

Y Muni

Dewch at Gôr Siambr Prifysgol Caerdydd i’w glywed yn llenwi’r awyr ag alawon a chytgordiau gweithiau corawl gan Morfydd Owen ei hun a chan eraill dylanwadol dethol.
Mae Côr Siambr Prifysgol Caerdydd, dan gyfarwyddyd yr arweinydd arobryn rhyngwladol Peter Leech, yn ensemble sydd wrth graidd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Dros yr wyth mlynedd aeth heibio perfformiodd y côr ddewis eang o repertoire o’r Dad-eni i’r oes sydd ohoni, a’r pwyslais ar amrywiaeth. Mewn blynyddoedd diweddar aeth y côr â rhaglenni cyngerdd oedd yn torri tir newydd (ac yn amlwg ei lle ynddynt gerddoriaeth Morfydd Owen, Johanna Kinkel, Olivia Sparkhall, Undine Smith Moore a chyfansoddwyr benywaidd eraill lawer) ar deithiau i Tsieina a Maleisia, ac i oedfannau cyngerdd o fri ledled Cymru. Yn 2024 bydd y côr yn rhyddhau ei CD masnachol cyntaf ar label Toccata Classics yn cynnwys recordiadau cyntaf o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Rufain o’r ddeunawfed ganrif Maria Rosa Coccia.

Next Item
Previous Item
bottom of page